Mae’r hen safle garej wedi ei leoli oddi ar Bronllwyn, Pentyrch, Caerdydd. Mae’r safle wedi ei leoli yng nghefn rhifau 5 a 7 Bronllwyn ac eir iddi ar hyd lôn fynediad hir yn union o’r briffordd fabwysiedig. Yn ffinio â’r safle mae gerddi rhifau 5 a 7 Bronllwyn i’r dwyrain, rhif 3 Bronllwyn i’r gorllewin ac is-orsaf bŵer Western Power i’r gogledd.
At ei gilydd ardal breswyl yw’r ardal leol sydd oddeutu 7.5 milltir o ganol Dinas Caerdydd ac mae’n agos i gyfleusterau lleol sy’n cynnwys siopau, ysgol gynradd, tafarn, canolfan chwaraeon a gwasanaeth bws lleol y gellir ei ddefnyddio o Bronllwyn. Mae’r safle yn cynnig cysylltiadau fyrdd da â’r M4 a Chanol Dinas Caerdydd ar hyd y B4262 a’r A470.
Comments are closed.