Lleoliad
Mae’r hen Ystafelloedd Te wedi’u lleoli ar Stryd y Castell ym Mhorth y Gorllewin wrth fynedfa Parc a Gardd Goed Bute, ger Canol Dinas Caerdydd a Chastell Caerdydd. Mae gan y parc nifer o bwyntiau mynedfa i gerddwyr, gan gynnwys Stryd y Castell a Gerddi Sophia.
Mae’r Ystafelloedd Te wedi’u lleoli wrth ymyl Afon Taf, ac ychydig gannoedd o lathenni o Orsaf Fysiau National Express Caerdydd, Safle Rygbi Parc yr Arfau Caerdydd, Stadiwm Criced Swalec a Chanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.
Disgrifiad
Mae’r eiddo dan sylw yn gaffi hunangynhwysol. Mae cyfleusterau’r gegin yn cynnwys mannau paratoi, cypyrddau storio a system echdynnu. Mae toiledau a siop anrhegion ar y safle.
Tu fas, mae ardal patio sy’n gallu darparu ar gyfer 120 o orchuddion. Mae’r arhosfan tacsi dŵr gerllaw.
Mae’r Caffi wedi’i leoli ym Mhorth y Gorllewin yng Nghastell Caerdydd ac fe’i hadeiladwyd ym 1860. Mae’r adeilad yn cynnwys llawer o nodweddion pensaernïol.
Ymwelwyr â Pharc Bute yn 2024 – 2,146,975
Mae’r prif gatiau i Stryd y Castell yn cael eu hagor yn y bore ac yn cael eu cau wrth iddi nosi.
Comments are closed.