Lleolir Canolfan Chwarae Llanrhymmni yn Braunton Crescent, Llanrhymni ac mae tua 4.5 cilometr i’r Gogledd o Ganol Dinas Caerdydd. Mae Llanrhymni yn faestref breswyl fawr yng Nghaerdydd. Mae modd cyrraedd y Ganolfan Chwarae ar drafnidaeth gyhoeddus (Bws Caerdydd) sy’n mynd ar hyd Braunton Crescent. Nid oes cysylltiadau rheilffordd lleol.
Adeilad unllawr pwrpasol yw Canolfan Chwarae Llanrhymni. Mae ffrâm gan yr eiddo a gorffeniad bloc a rendrad ar y waliau. Mae’r to ar ongl gyda gorchuddiadau metel.
Cynnig
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda grwpiau cymunedol a phobl leol i sicrhau bod yr eiddo yn parhau i gael ei ddefnyddio. Mae Cyngor Caerdydd yn gwahodd Datganiadau Cychwynnol o Ddiddordeb gan unigolion, grwpiau a sefydliadau masnachol sydd â’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol i greu budd cymunedol a dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr adeilad.
Ystyrir yr holl ddewisiadau a chynigion ar gyfer defnydd yn y dyfodol, yn amodol ar gynllunio (dosbarth defnydd cynllunio cyfredol D1).
Bydd angen i bartion â diddordeb ddangos gallu i greu dyfodol cynaliadwy hirdymor ar gyfer yr eiddo gyda buddion clir ar gyfer y gymuned leol. Mae’r Cyngor yn bwriadu cael gwared â’r eiddo ar sail prydles ar delerau atgyweirio ac yswirio llawn.
Comments are closed.