LLEOLIAD A DALGYLCH
Canolfan y Red Dragon yw’r brif ganolfan hamdden ar gyfer Bae Caerdydd, gan fod yn safle amlwg ym Mae Caerdydd, un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd a bywiog y ddinas, ac mae’n
elwa o faes parcio arwyneb pwrpasol sylweddol sy’n darparu mynediad cyfleus i’r amwynderau. Wedi’i lleoli ger Plass Roald Dahl ac yn union gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru,
mae’r Ganolfan yn elwa o gwsmeriaid sydd wedi dod i fynd i’r theatr gerllaw neu ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lan y Bae drwy gydol y flwyddyn. Mae’n rhan allweddol o
rwydwaith Glannau Bae Caerdydd ac mae’n chwarae rhan flaenllaw mewn mentrau cydweithredol fel y Llwybrau Nadolig poblogaidd.
Mae’r ardal gyfagos yn gartref i weithlu lleol mawr, wedi’i hategu gan ddatblygiadau masnachol sylweddol a mannau preswyl. Disgwylir twf pellach ar ôl agor coleg chweched dosbarth
newydd a chyfleuster campws yn 2026. Mae’r Ganolfan yn hawdd ei chyrraedd trwy gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ardderchog ac mae’n elwa o agosrwydd at atyniadau
allweddol Bae Caerdydd, gan ei gwneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer meddianwyr sy’n ymwneud â hamdden.
CANOLFAN Y RED DRAGON
Mae Canolfan y Red Dragon wedi’i hangori gan gyfres gref o weithredwyr cenedlaethol a rhanbarthol. Mae’r rhain yn cynnwys ODEON, sydd ar hyn o bryd yn cael uwchraddiad mawr
i’w sgrin IMAX a fydd yn lansio’r mis nesaf, ynghyd â Grosvenor Casino, Five Guys ac amrywiaeth o frandiau bwyd, diod ac adloniant. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnwys campfa o’r
radd flaenaf gyda sylfaen aelodaeth gynyddol, gan wella ei hapêl i’r farchnad iechyd a lles. Mae’n gartref i stiwdios radio Heart a Capital South Wales, sydd ar hyn o bryd yn cael eu
hadnewyddu’n llawn.
Denodd Canolfan y Red Dragon dros 1.7 miliwn o ymwelwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ddangos ei statws fel cyrchfan hamdden sy’n cael llawer o ymwelwyr. Mae’r
perfformiad presennol yn tracio 20% o flaen y flwyddyn flaenorol. Mae cyfuniad y Ganolfan o brofiadau hamdden, bwyta ac adloniant yn parhau i yrru ymweliadau hamdden, gan
gefnogi llwyddiant meddianwyr a thwf parhaus.
Mae’r Ganolfan yn gweithredu strategaeth farchnata ragweithiol a chynhwysol sydd â’r nod o gyflawni ymgysylltiad cyson a chynnal nifer yr ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn. Mae
digwyddiadau’n cael eu hamseru’n ofalus i gyd-fynd â rhyddhau ffilmiau, gwyliau ysgol ac uchafbwyntiau tymhorol, gydag addurniad ar thema a gweithgareddau ymgolli sy’n creu
cyffro ac yn ennyn diddordeb ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r Ganolfan hefyd yn ymfalchïo mewn presenoldeb digidol cadarn, gydag ymgysylltiad cryf a chynyddol ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol a chynnydd cyson o flwyddyn i
flwyddyn yn nifer y bobl sy’n ymweld â’r wefan. Mae hyn yn cael ei ategu gan ei phartneriaeth unigryw â Capital South Wales, sy’n cynnig cyrhaeddiad marchnata rhanbarthol heb ei
ail trwy ymgyrchoedd radio integredig. Mae ymgysylltu â’r gymuned yn parhau i fod yn ganolog i hunaniaeth y Ganolfan, gyda dathliadau diwylliannol sefydledig fel Eid a’r Flwyddyn
Newydd Tsieineaidd yn denu nifer sylweddol o ymwelwyr ac yn ymddangos yn amlwg yn ei rhaglen ddigwyddiadau flynyddol, ynghyd â digwyddiadau fel Pride.
Comments are closed.