Lleoliad
Mae cwt y gofalwr wedi’i leoli ym Mharc Cefn Onn, yn ardal breswyl
boblogaidd Llys-faen, Gogledd Caerdydd. Mae’r parc ger Clwb Tennis
Llys-faen a Gorsaf Drenau Llys-faen, sy’n llinell gymudo uniongyrchol i
Ganol Dinas Caerdydd.
Mae Parc Cefn Onn yn Barc Hanesyddol 66.6 erw, sydd ar agor 7
diwrnod yr wythnos gyda mynediad anghyfyngedig.
Disgrifiad
Mae hen gwt y gofalwr o gynllun cellog gyda 2 ystafell wely, lolfa, ystafell
fwyta, cegin a chyfleusterau toiled. Mae’r llety yn llawr gwaelod yn unig
gydag ardal allanol fach.Nid yw’r Cyngor yn dymuno ailosod fel llety
byw.
Mae parcio ceir am ddim ar gael yn y cyffiniau.
Rydym yn deall nad yw nwy ar gael, ac mae unrhyw goginio neu wresogi
yn rhedeg oddi ar gyflenwad trydan.
Comments are closed.