Mae maint yr eiddo sydd ar werth wedi ei amlinellu’n goch ar gynllun y safle ac mae’n ymestyn i oddeutu 0.83 erw (0.34 ha).
Mae’r Plasty tua’r gogledd-ddwyrain o ganol dinas Caerdydd, ar gyffordd Heol Richmond, Richmond Crescent a Llwyn y Gorllewin. Mae’n ffinio â’r ffyrdd hyn i’r de a’r gorllewin, i’r gogledd gan Neuadd Gordon, bloc o lety myfyrwyr, ac i’r dwyrain gan eiddo preswyl.
Mae mewn lleoliad da ar gyfer mynediad i amwynderau canol dinas Caerdydd, ac mae o fewn hanner milltir ar droed i ardal siopa boblogaidd Heol y Frenhines a gorsaf drenau Heol y Frenhines Caerdydd. Mae gorsaf drenau Caerdydd Canolog tua 1 filltir ar droed, gyda gwasanaethau i Lundain Paddington, Bryste, Birmingham, Manceinion a Gorllewin Cymru. Mae Prifysgol Caerdydd ac atyniadau poblogaidd i dwristiaid Castell Caerdydd a Stadiwm Principality hefyd o fewn tua 1 milltir.
Mae’r Plasty i’r de o Cathays a’r Rhath, dwy faestref sy’n boblogaidd gyda myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae’r ardal gyfagos yn cynnwys filas Fictoraidd deniadol ar Heol Richmond, y mae llawer ohonynt wedi’u haddasu’n fflatiau neu at ddefnyddiau masnachol.
Comments are closed.