Saif Parc Hailey mewn safle canolog yn nyffryn Afon Taf. Mae Taith Taf yn mynd drwy’r parc, sy’n llwybr 55 milltir i gerddwyr a beicwyr o Aberhonddu i Gaerdydd ac mae’n ychwanegu at y cyfleusterau hamdden gwych sydd eisoes ar gael gan gynnwys ardal fawr o gaeau chwaraeon (e.e. rygbi, pêl-droed, rygbi cyffwrdd, pêl fas). Mae pen deheuol Parc Hailey yn gartref i Glwb Rygbi Ystum Taf, gyda chaeau ar y parc ar gyfer gemau a hyfforddi tra bod eu y tŷ clwb yn Radyr Road gerllaw. Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys cyrtiau tennis ac ardal chwarae wedi’u hadnewyddu. Mae Parc Hailey hefyd yn gartref i Glybiau Rygbi lleol sy’n chwarae ar gaeau drws nesaf i’r ystafelloedd newid (mynedfa ar hyd Heol Tŷ Mawr). Mae’r parc yn agos iawn at ganolfan ardal Ystum Taf ar Heol yr Orsaf lle mae siopau a mwynderau eraill gan gynnwys practis milfeddyg, canolfan iechyd a chaffis.
Manylion
I Osod/Prydlesu
Arall
4,000 tr sgwâr / 372 m sgwâr
.
Disgrifiad
Comments are closed.