Cyfle i gaffael safle datblygu posibl sy’n mesur tua 0.13 erw. Mae’r safle wedi ei leoli nesaf at res o unedau manwerthu ar un ochr a thy annedd ar y llall. Yn ein barn ni, byddai’r eiddo’n cynnig cyfle datblygu masnachol neu breswyl delfrydol yn amodol ar yr holl ganiatadau angenrheidiol a chaniatâd cynllunio perthnasol gan yr awdurdod lleol. Mae’r safle wedi ei leoli o fewn ystad dai leol ym maestref y Tyllgoed ac yn agos at nifer o ysgolion. Mae cysylltiadau trafnidiaeth da i ganol y ddinas gerllaw ynghyd a mynediad cyfleus i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Eglwys Gadeiriol Llandaf.
Ymweliadau
Agored i’w archwilio, am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Auction House Wales ar 02920 475184.
Comments are closed.