Adeilad bric modern sengl gydag ardal barcio â gatiau wedi’i leoli ym maestref boblogaidd Yr Eglwys Newydd. Rydym ar ddeall bod yr eiddo wedi’i ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o wahanol ddefnydd dros y blynyddoedd, gan gynnwys siop betio a siop goffi/caffi. Credwn fod gan yr adeilad arwynebedd llawr mewnol gros o tua 60 metr sgwâr, ond rydym yn cynghori unrhyw un sydd â diddordeb i wneud eu mesuriadau eu hunain er mwyn cadarnhau hyn.
Yn ein barn byddai’r eiddo’n addas ar gyfer meddiannwr busnes neu fuddsoddwr.
Mae’r adeilad wedi’i leoli o fewn Maes Parcio Cyhoeddus yr Awdurdod Lleol yn agos i nifer o feddianwyr busnes proffesiynol a hefyd manwerthwyr lleol a chenedlaethol. Mae gan Yr Eglwys Newydd hefyd nifer o ysgolion, amwynderau a mynediad da i’r A470, M4 a Chanol Dinas Caerdydd.
Manylion
Trwy Arwerthiant
Arall
.
.
Disgrifiad
Comments are closed.