Wyddech chi wrth brynu tocyn ar gyfer y loteri eich bod yn helpu llefydd fel Marchnad Caerdydd?
Hoffai Cyngor Caerdydd ddiolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am ei gyllid datblygu ar gyfer prosiect adfer Marchnad Caerdydd.
Os bydd yn llwyddiannus, bydd y prosiect yn gwneud gwaith adfer sylweddol ar yr adeilad rhestredig Gradd II* hwn a godwyd yn 1891. Bydd y prosiect yn adfywio’r farchnad ac yn sicrhau bod yr adeilad yn addas at y diben ar gyfer y dyfodol.
Bydd hefyd yn cyflwyno prosiectau gweithgaredd a dehongli a fydd yn cynnwys storïau am hanes y farchnad, atgofion y gymuned a dehongliad gweledol. Bydd y prosiect hefyd yn cysylltu â Chastell Caerdydd, Amgueddfa Caerdydd ac Eglwys Sant Ioan i sicrhau bod y farchnad yn rhan allweddol o’r Ardal Hanesyddol a bod y lleoliadau twristiaeth pwysig hyn yn cydweithio ac yn hyrwyddo ei gilydd.
Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys gweithio gyda grwpiau cymunedol ac ysgolion i sicrhau bod y farchnad yn hygyrch i bawb.
Diolch yn fawr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
oddi wrth bawb ym Marchnad Ganolog Caerdydd
Comments are closed.