Lleolir Parêd Siopa Maelfa (CF23 9PL) ger Llanedeyrn Drive, sy’n llai na milltir o A48(M) Eastern Avenue ac sy’n cynnig mynediad at gyffyrdd 29 a 30 ar yr M4 a chanol dinas Caerdydd (3 milltir i’r de-orllewin). Y parêd siopa yw hwb y gymuned breswyl gyfagos ac mae’n agos at y 3 ysgol gerllaw a chyferbyn â datblygiad tai Chwarter y Dwyrain Persimmon Homes, sy’n cynnwys 57 o dai preifat newydd.
Bydd y cyfle’n cynnwys unedau manwerthu newydd sbon yn ailddatblygiad Cyngor Caerdydd o’r Ganolfan Siopa Maelfa bresennol gyda siopau, cartrefi, meysydd parcio a’r ardal gyhoeddus. Bydd y cynllun yn cynnwys oddeutu 12,500 tr sg o unedau manwerthu ar y llawr daear gyda 54 o fflatiau a thai preswyl wedi’u lleoli uwchben ac o amgylch yr unedau manwerthu. Bydd yr unedau’n cael eu gorffen i fanyleb cragen, yn barod i gael eu dodrefnu a’u meddiannu gan denant newydd. Bydd rhagor o fanylion am yr unedau ar gael ar gais.
Comments are closed.