Mae’r llyn wedi ei leoli y tu ôl i Ganolfan Hamdden Pentwyn, Bryn Celyn Road yn y man cyhoeddus agored – Parc Coed-y-nant, Pentwyn, Caerdydd ac mae wedi’i ddangos ar y cynllun atodedig at ddibenion adnabod.
Adeiladwyd Llyn Pysgota Parc Coed-y-nant (maint o. 4,745 metr sgwâr) fel llyn addurniadol ym 1975 yn rhan o gynigion gwella’r hen Barc Pentwyn.
Mae’r llyn mewn siâp triongl wedi ei greu gan argae pren ar draws isafon o ffrwd Nant Glandulais. Yr adran ddyfnaf yw oddeutu 1.2 metr yn agos at yr argae. Er ei fod yn fas, mae’r cyflenwad dŵr yn gyson a chyda digon o ocsigen oherwydd y llif parhaol a phresenoldeb chwyn pwll sy’n cynhyrchu ocsigen yn y llyn.
Roedd leinin bwtil yn y llyn yn wreiddiol ond cafodd ei dyllu mewn sawl man oherwydd gweithgareddau dad-siltio. Er hynny, mae’r is-haen clai yn eithaf anhydraidd ac mae lefel dŵr y llyn yn parhau i fod yn gyson. Mae cored wedi ei adeiladu ar wely’r brif ffrwd i hwyluso’r llif cyson.
Comments are closed.