Mae’r adeilad rhestredig Gradd II hwn, a arferai fod yn floc o doiledau cyhoeddus, wedi’i leoli mewn ardal o barcdir anffurfiol. Mae Cyngor Caerdydd wedi rhoi gwybod i ni y bydd yn ystyried ceisiadau cynllunio am newid defnydd yr adeilad a chodi estyniad arno yn ffafriol.
Bydd yr adeilad ar gael ar les atgyweirio ac yswirio llawn newydd a gwahoddir cynigion oddeutu £19,500 y flwyddyn heb gyfrif taliadau eraill.
Ceisir datganiadau o ddiddordeb drwy broses tendro anffurfiol, a rhaid eu cyflwyno erbyn 12pm ddydd Gwener 19 Hydref 2018. Rhodfa’r Amgueddfa, Caerdydd CF10 3ND
Comments are closed.