Lleoliad:
Mae “Caffi’r Ardd Gudd” ym Mharc Bute ac mae’n ganolbwynt ar gyfer y parc lle mae mwy na 3 miliwn o bobl yn ymweld bob blwyddyn. Lleolir y caffi o fewn yr ardd furiog sydd wrth ymyl Canolfan Addysg Parc Bute, canolfan ymwelwyr drwy’r flwyddyn, cyfleuster ystafell ddosbarth a chynadledda.
Disgrifiad:
Mae’r caffi mewn lle unigryw gyda chegin amgaeedig, lleoedd cwrt dan gysgod ar gyfer oddeutu 18 o bobl, toiledau cyhoeddus a’r defnydd o deras tu allan gyda lle ar gyfer o leiaf 42 o bobl ychwanegol.
Comments are closed.