Lleoliad
Mae’r safle (CF11 8BD) 2 filltir i’r gorllewin o ganol dinas Caerdydd, drwy Hadfield Road, ac mae yna gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol. Mae Cyffordd 33 yr M4 tua 7 milltir i’r gogledd-orllewin ar hyd yr A4232 (PDR), sydd hefyd yn cysylltu â Bae Caerdydd a Ffordd Gyswllt Ddwyreiniol newydd y Bae i’r de.
Mae’r cyffiniau uniongyrchol wedi’u datblygu’n sylweddol dros y blynyddoedd ac ystyrir y lleoliad yn un o leoliadau masnachol / masnach a manwerthu prysuraf cyrion Caerdydd. Mae nifer o brif werthwyr ceir y ddinas yn yr ardal, gan gynnwys Mazda, Nissan, Suzuki a Mitsubishi. Mae’r defnyddiau eraill yn cynnwys cymysgedd o fusnesau talu a chario (Blakemore, Bookers Wholesale) a meddianwyr sy’n cynnwys Better Bathrooms, Davies Motor Company, Topps Tiles, Enterprise Motorcycles a Triumph Motorcycles. Mae Stadiwm Dinas Caerdydd a Pharc Manwerthu’r Brifddinas lai na 0.5 milltir i’r gogledd.
Disgrifiad
Mae’r safle’n cynnwys plot gwastad o siâp arferol sydd â’r fantais o ffens ffiniol. Mae’n tua 0.42 hectar (1.04 erw) o faint.
Disgwylir i’r safle gael ei glirio ym mis Medi 2017 (diwedd y tymor nythu).
Ceir mynediad i’r safle ar hyd Hadfield Close, ac mae’n wynebu’r un heol.
Mae’r safle ar gael ar gyfer meddiannaeth wag.
Deallwn fod y safle yn rhan o ddynodiad tir cyflogaeth Heol Penarth dan bolisi EC1.10 y Cynllun Datblygu Lleol.
Telerau Dyfynnu
Telerau ar y cais.
Gwasanaethau
Deallwn fod gwasanaethau prif gyflenwad ar gael i’r safle. Dylai partïon â diddordeb wneud eu hymholiadau eu hunain i gadarnhau addasrwydd a chapasiti’r gwasanaethau.
Daliadaeth
Deallwn fod gwasanaethau prif gyflenwad ar gael i’r safle. Dylai partïon â diddordeb wneud eu hymholiadau eu hunain i gadarnhau addasrwydd a chapasiti’r gwasanaethau.
TAW
Codir TAW ar bob cost.
Ymweliad â’r safle
I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu ymweliad, cysylltwch â’r asiantau unigol:
Rob Ladd
Partner
029 2026 2254
rob.ladd@cushwake.com
Chris Yates
Uwch Syrfëwr
029 2026 2272
chris.yates@cushwake.com
Comments are closed.