Uned 1 B a 1C, Ystâd Ddiwydiannol Dominions Way Caerdydd CF24, Cymru. Lleolir yr eiddo yn amlwg yn Ystâd Fasnachu Dominions Way. Mae Dominions Way yn cysylltu’n uniongyrchol â Heol Casnewydd sy’n rhoi mynediad uniongyrchol i Eastern Avenue, ar ffordd ddeuol yr A4232.
O Eastern Avenue, mae cyswllt uniongyrchol i draffordd y M4 o Gyffordd 29 i’r dwyrain, a Chyffordd 32 i’r gorllewin. Mae Canol Dinas Caerdydd yn 2 filltir i’r Gorllewin o Ystâd Fasnachol Dominions Way, lleolir Abertawe 47 milltir i’r gorllewin ac mae Casnewydd a Bryste yn 11 a 40 milltir i’r dwyrain.
Disgrifiad AR OSOD – Warws Diwydiannol gyda chyfleusterau swyddfa a maes parcio
Manyleb
• Lleoliad ardderchog yn agos at Heol Casnewydd
• Uchder bondoeau mewnol lleiaf o 5.23m
• Drws caead rholer gyda mynediad gwastad
• 2 ddrws consertina (llithro) gyda mynediad gwastad
• Tân nwy
• Meysydd parcio o flaen yr eiddo a’r tu cefn i’r eiddo
• Cyfleusterau swyddfa ar y llawr ddaear a’r llawr cyntaf gyda lifft,
cwndidau perimedr, gwydr dwbl a gwres canolog nwy
• Holl brif wasanaethau cyflenwadau
Comments are closed.