Lleoliad
Maestref 5 milltir i’r gogledd o Gaerdydd yw Llys-faen, sydd â naws
pentref gwledig gan ei bod wedi’i hamgylchynu gan gefn gwlad.
Yn Llys-faen mae siop leol, ysgol gynradd, llyfrgell, parc, meithrinfa,
eglwys blwyf, dwy dafarn, Neuadd Sgowtiaid a Neuadd Gymunedol.
Mae’n hawdd cyrraedd yr M4 wrth gyffordd 30, 3 milltir i’r dwyrain, ac
mae gorsaf reilffordd Llys-faen a’r Ddraenen, sydd 15 munud i ffwrdd ar
droed, yn gwasanaethu’r ardal. Mae yna wasanaethau bws rheolaidd
hefyd.
Disgrifiad
Mae’r hen ystafelloedd newid wedi’u lleoli ger Neuadd y Sgowtiaid a
Grŵp Meithrin Treetops ym Mharc Heol y Delyn.
Mae lleoedd parcio ceir am ddim ar gael yn yr ardal gyfagos.
Rydym ar ddeall nad oes nwy ar gael, a bod unrhyw goginio neu wresogi
yn cael ei bweru gan gyflenwad trydan.
Comments are closed.