O’r dechrau fel marchnad ffermwyr yn gwerthu da byw a chynnyrch fferm, mae Marchnad Caerdydd wedi esblygu dros y canrifoedd i ateb anghenion masnachwyr a chwsmeriaid yn lleol ac ymhellach. Mae’n ganolfan lle ceir bwyd rhagorol ac mae amrywiaeth anferthol ar gynnig; mae gan y nodwedd amlwg hon o’r ddinas hanes difyr dros ben. Darllenwch i ddysgu sut y gwnaeth y newidiadau effeithio ar fywyd bob dydd yn y ddinas, pwy fu’n gyfrifol am ddylunio ac adeiladu’r adeilad ac am rôl y farchnad yn natblygiad canol masnachol Caerdydd.
Yn wreiddiol, carchar Caerdydd oedd yn safle presennol y farchnad; roedd y grocbren yn lle mae mynedfa ochr Heol Eglwys Fair nawr ac yma y crogwyd Dic Penderyn ar 13 Awst 1831. William Harpur, tirfesurydd y fwrdeistref, a ddyluniodd y farchnad ac fe’i hagorwyd ym mis Mai 1891. Gwyddys y bu marchnad ffermwyr ar y safle ers y 18fed ganrif. Mae’r farchnad yn cynnwys dau lawr o siopau: y llawr gwaelod a balconi sy’n mynd o amgylch waliau’r farchnad ar yr ochr fewnol. Mae’r mynedfeydd ar Heol Eglwys Fair, Heol y Drindod ac ym mhen stryd gefn sy’n arwain o Heol yr Eglwys.
Rhoddwyd cloc H. Samuel mawr y tu allan i’r fynedfa yn Heol Fawr ym 1910. Mae’r cloc sydd yno ar hyn o bryd yno ers 1963 (gan Smith o Derby) ac fe’i hatgyweiriwyd am £25,000 yn 2011. Mae’r adeilad yn gofrestredig ers 1975 ac yng nghategori Gradd II. Mae’r masnachwyr yn y farchnad yn cynnwys amrywiaeth o gynnyrch ffres, bwyd wedi ei goginio, danteithfwyd amrywiol a nwyddau. Un masnachwr amlwg yw Ashton, y gwerthwyr pysgod, sydd yn ôl pob sôn wedi bod yn masnachu yn y farchnad ym mynedfa Heol y Drindod ers 1866, yn gwerthu amrywiaeth o fwyd môr ffres. Yn 2012, cawsant sylw yn y papur pan gwnaethant werthu cig llwynog môr 20 troedfedd o hyd oedd yn pwyso 550 pwys. Masnachwr arall sydd yno ers amser yw The Market Deli, busnes teulu bychan sy’n masnachu ers dros ganrif ac sydd yn yr un stondin ers 1928.
Gwybodaeth o Wicipedia, y gwyddoniadur rhad ac am ddim.