Croeso
Mae Marchnad Caerdydd (neu’r Farchnad Ganolog) yn strwythur Fictoraidd trawiadol sy’n cynnig profiad siopa unigryw yng nghanol dinas fodern a phrysur.
Dan do gwydr mawr gwelwch amrywiaeth eang o gynhyrchion yn amrywio o botiau a phadelli i fara a menyn, ac o nyts a bolltau i sigl a swae. Mae Marchnad Caerdydd wedi bod yn masnachu ar un ffurf neu un arall ers y 1700au.
Mae yno ddwy fynedfa; un sy’n dod o Heol Eglwys Fair, ac un a leolir yn Heol y Drindod, yn agos at Eglwys Sant Ioan.