LLEOLIAD
Saif Parc Hailey mewn safle canolog yn nyffryn Afon Taf. Mae Taith Taf yn mynd
drwy’r parc, sy’n llwybr 55 milltir i gerddwyr a beicwyr o Aberhonddu i Gaerdydd
ac mae’n ychwanegu at y cyfleusterau hamdden gwych sydd eisoes ar gael gan
gynnwys ardal fawr o gaeau chwaraeon (e.e. rygbi, pêl-droed, rygbi cyffwrdd,
pêl fas). Mae pen deheuol Parc Hailey yn gartref i Glwb Rygbi YStum Taf, gyda
chaeau ar y parc ar gyfer gemau a hyfforddi tra bod eu y tŷ clwb yn Radyr Road
gerllaw. Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys cyrtiau tennis ac ardal chwarae
wedi’u hadnewyddu.
Mae Parc Hailey hefyd yn gartref i Glybiau Rygbi lleol sy’n chwarae ar gaeau
drws nesaf i’r ystafelloedd newid (mynedfa ar hyd Heol Tŷ Mawr).
Mae’r parc yn agos iawn at ganolfan ardal Ystum Taf ar Heol yr Orsaf lle mae
siopau a mwynderau eraill gan gynnwys practis milfeddyg, canolfan iechyd a
chaffis.
DISGRIFIAD
Mae’r ardal yn cynnwys yr hen lawnt fowlio ym Mharc Hailey sy’n cael mynediad
oddi ar Heol Tŷ Mawr. Hen safle’r Pafiliwn Lawnt Bowlio.
Mae’r ardal yn ymestyn i tua 0.03152 hectar.
Y CYNNIG
Rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb i ategu’r Parc.
Byddai cynllun busnes a lluniadau yn fuddiol
Comments are closed.