Lleoliad Mae'r eiddo wedi'i leoli yng Ngerddi Sophia, un o barciau cyhoeddus mwyaf Cyngor Caerdydd, ar lan orllewinol Afon Taf....
Mwy o wybodaeth

Ar agor dydd Llun i ddydd Sadwrn, 8am tan 5.30pm
Mae Marchnad Caerdydd (neu’r Farchnad Ganolog) mewn lleoliad canolog yng nghanol dinas fywiog a chyffrous Caerdydd. Mae yno ddwy fynedfa; un sy’n dod o Heol Eglwys Fair, ac un a leolir yn Heol y Drindod, yn agos at Eglwys Sant Ioan. Mae mynedfa Heol y Drindod mewn lleoliad sydd wedi’i neilltuo i gerddwyr yn unig. Mae’r ardal hon wedi’i thirweddu ac mae seddi ar gael i siopwyr eu defnyddio wrth gymryd hoe fach yn ystod diwrnod prysur yn siopa yn y Brifddinas.
